Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
28 Mehefin 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12880
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad byr ynghylch ateb a roddwyd yn ystod y sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos gynt, yn dilyn gohebiaeth a gafodd wedi hynny gan Network Rail a gadarnhaodd nad oedd unrhyw staff Network Rail wedi cael eu hail-leoli yn ystod y streic yr wythnos gynt. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r llythyr ar gael i’r Aelodau yn y Llyfrgell.
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.33
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Dechreuodd yr eitem am 14.47
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau
Dechreuodd yr eitem am 15.28
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.54
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau
Dechreuodd yr eitem am 16.30
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022
Dechreuodd yr eitem am 17.06
8 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-2026
Dechreuodd yr eitem am 17.35
9 Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022
Dechreuodd yr eitem am 18.13
NDM8035 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022, yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 18.15
Yn unol a Rheol Sefydlog 26.50C, gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8045 Jeremy Miles (Castell Nedd)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), fel y'i diwygiad ar ôl Cyfnod 3
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.28 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.32
Daeth y cyfarfod i ben am 18.33
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 29 Mehefin 2022